

Byddwch yn cychwyn o Bentre, yn Eglwys San Pedr. Ni allwch golli silwét hirsgwar mawreddog yr eglwys, a bydd o werth i chi pryd bynnag y byddwch yn edrych yn ôl ar y dyffryn wrth i chi ddringo a’i wylio'n lleihau i faint nodwydd, gan y bydd yn dangos i chi pa mor bell rydych wedi dod.
Mae'r ddringfa'n eich tywys lan rhwng llinellau coed ar drac garw, gan gyrraedd brig y llethrau tua 250 metr uwchben yr eglwys. Mae'r golygfeydd yn briodol wych, ac os dewiswch gymryd y llwybr o'r gogledd i'r de, byddai'n cynnig cyfle tynnu llun perffaith i orffen taith y dydd. Wrth barhau i'r gogledd, fe ddewch i lawr yr ochr arall, gan blymio'n serth i lawr tuag at dref Maerdy a'r afon ar lawr y dyffryn.
Gan dorri i mewn ychydig uwchben Maerdy, byddwch yn cysylltu â glan yr afon ac yn ei dilyn i fyny'r dyffryn i Gronfa Ddŵr Castell Nos, gan basio islaw'r fryngaer o'r un enw ar ochr y bryn ar y dde i chi. Mae'r darn cyfan hwn o'r llwybr yn olygfaol heb fod yn rhy heriol. Wrth ddringo uwchben yr argae yng Nghastell Nos, byddwch yn parhau am hyd y gronfa ddŵr cyn troi yn sydyn i'r dde a dringo ochr ddwyreiniol y dyffryn nes cyrraedd ffordd yr A4233, lle byddwch yn dod o hyd i le parcio gwych gyda golygfeydd o'r llwybr cyfan rydych newydd ei feistroli.
*Amser bras gan geffyl. Bydd ar feic yn gyflymach.
Noder
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy i bobl â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau o ganlyniad i ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall y tywydd effeithio ar arwynebau llwybrau hefyd. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.
greatglamorganway112022