Gallwch ddechrau'r llwybr hwn naill ai o'r gogledd neu'r de, gyda phob llwybr ceffyl yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Gan ymuno o'r de, byddwch yn gadael Pont-rhyd-y-cyff ac yn symud yn gyflym i lwybr cysgodol, coediog ar hyd glan yr afon, gan groesi'r afon tua chilometr i mewn. Mae llwybr y gogledd yn llwybr ychydig yn fyrrach ac mae'r ddau yn cyfarfod yn y canol wrth gamedd y dyffryn yng Nghwmdu-isaf.
O'r fan hon, mae'n godiad cyson gyda'r nant ar y dde i chi, gan ddringo i'r llinell goed ar gopa'r bryn. Mae’r tir agored hwn yn gynefin unigryw mewn gwirionedd, gan fod ei laswelltir sych asidig yn cynnig lloches wych i adar sy’n nythu ar y ddaear ac ymlusgiaid, fel ehedyddion a madfallod.
Mae'r llwybr yn croesi crib y bryn cyn disgyn igam-ogam i lawr yr ochr arall drwy'r coed, rhwng llennyrch sy'n cynnig golygfeydd rhyfeddol, nes i chi lifo allan i Gwm Garw wrth ymyl afon goediog arall, gan roi cymesuredd hyfryd i daith y dydd.
*Amser bras gan geffyl. Bydd ar feic yn gyflymach.
Noder
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy i bobl â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau o ganlyniad i ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall y tywydd effeithio ar arwynebau llwybrau hefyd. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.
John Davies