

Nid oes maes parcio dynodedig ym Mrynna, ond mae dal yn bosibl parcio yma cyn eich reid. Gan gychwyn yng Nghoed Brynna, byddwch yn gweithio'ch ffordd i fyny trwy goridor tawel o'r pentref ac allan i'r caeau gwyrdd llachar y tu hwnt iddo. Yna cewch eich wynebu gan godiad godidog Mynydd Coedbychan, côn anferth o bridd sy'n cynnig golygfeydd gwych ar draws y dirwedd o’i gwmpas.
O'ch blaen mae fferm wynt Graig Fatha, y fferm wynt gyntaf yn y DU sy'n eiddo i ddefnyddwyr, a byddwch yn mynd yr holl ffordd bron i’r llinell hon o dyrbinau gwynt. Reidiwch ar hyd y trac treuliedig ond gadarn dros y copa, lle byddwch yn dod o hyd i adfeilion Eglwys Sant Pedr i’ch cyfarch, sy’n fan braf i eistedd a gorffwys ar ôl dringfa galed. O'r fan hon, gallech gysylltu â Llwybr Mawr Morgannwg i Goedwig Llantrisant ar hyd Ffordd y Bryniau.
*Amser bras gan geffyl. Bydd ar feic yn gyflymach.
Noder
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy i bobl â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau o ganlyniad i ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall y tywydd effeithio ar arwynebau llwybrau hefyd. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.
greatglamorganway112022