

Mae digonedd i'ch cadw'n brysur yn ystod prynhawn yng Ngwenfô. P'un ai golff, hanes, detholiad o dafarndai neu hyd yn oed ganolfan arddio boblogaidd Gwenfô sy'n mynd â'ch bryd, mae'r ardal rywsut yn cynnig rhywbeth i bawb.
Mae Eglwys Sant Bleiddian (ystyr 'Bleiddian' yw 'Blaidd Bach') wedi bod yn safle hyfryd i fwynhau golygfeydd o'r rhanbarth, ers iddi gael ei chodi yn y 12fed ganrif. Adnewyddwyd yr eglwys droeon ar hyd y canrifoedd, ond mae'n dal i gynnwys rhywfaint o wydr y canoloesoedd. Wrth ymyl yr eglwys mae adeilad Tuduraidd mawr, 'Capel Button'. Codwyd y capel fel man claddu i aelodau'r teulu Button ac mae’n nodwedd bensaernïol unigryw ym Mro Morgannwg. Eisteddwch ar y fainc yn y fynwent a mwynhau naws hudolus y llecyn hyfryd hwn.
Ar draws yr ardal byddwch yn dod ar draws tair tafarn - y Wenvoe Arms, y Horse and Jockey a Walston Castle. Mae'r Wenvoe Arms yn dyddio o'r 18fed ganrif, ac mae pob un o'r tair tafarn yn llawn o'i chymeriad unigryw ei hun. Er bod tair tafarn o fewn cyrraedd, nid yw'n syniad da mynd ar grôl o'r naill i'r llall - yn enwedig os ydych chi'n reidio beic neu'n marchogaeth!
The Great Glamorgan Way project has planted hedgerows along Beauville lane, providing green corridors in an otherwise highly managed environment, and supplying plenty of benefits to the natural wildlife. Hedgerows increase essential habitat for small mammals including endangered hazel dormice. Hedgerows also provide nesting opportunities for woodland birds, which mostly nest in hedgerows rather than woodland habitats, due to their availability. The green corridors created will also bridge gaps between patches of ancient broadleaved woodland, and once completed will provide a romantic green passage beneath the primeval trees.
what3words: achieving.mute.thing
Hydred: 51.442087
Lledred: -3.264388
Wenvoe, Garden Centre and café, parking and pubs
John Davies