

Mae Saint Hilari ei hun yn bentref bach hyfryd o’r oes o’r blaen. Mae ei eglwys nodedig yn adeilad sylweddol o faint sy’n hanu o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae ei arddull bensaernïol gyfoethog a’i delwau cerfiedig gwych werth eu gweld. Mae’r dafarn leol, ‘The Bush Inn’, yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg ac mae’n llawn nodweddion gwirioneddol hynafol oddi mewn.
Os ydych yn fodlon gwyro allan o’ch ffordd, gallwch fynd am dro i Hen Gastell y Bewpyr a warchodir gan CADW, safle ysblennydd ac urddasol ac iddi waliau nerthol sy’n dadfeilio. Bydd ei maintioli trawiadol, a’r holl ffenestri sy’n edrych dros y cwrt, yn llenwi’ch dychymyg â meddyliau a delweddau o’r trigolion a fu’n byw yn llawn bwrlwm yno unwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio’ch taith o gwmpas oriau agor, er mwyn osgoi colli allan.
Yn olaf, mae’r llwybr ceffylau yn dringo i gopa isel o 134 metr, lle dewch ar draws ‘Y Clwmp’, coedlan swynol a chanddi olygfeydd clir ar draws Bro Morgannwg. Mae ochr y bryn ei hun wedi’i gysylltu â Brwydr Bryn Owen, a ymladdwyd rhwng Brenin Harri IV ac Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, rywbryd rhwng OC 1403 a 1405.
Honnir iddo bara 18 awr enbyd gan arwain at fuddugoliaeth aruthrol i’r Cymry, gan orfodi’r Saeson i gilio’n ôl i Gaerdydd yng nghanol storm fellt a tharanau a llifogydd. Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd i wneud yn siŵr nad ydych yn cael eich gorfodi i wneud yr un peth!what3words: lace.skillet.digit
Hydred: 51.454722
Lledred: -3.418611
Tafarn ‘The Bush Inn’
Parcio
John Davies