

Wrth ymweld ag Aberogwr, ni allwch beidio â gweld y castell. Yn tra-arglwyddiaethu dros yr Afon Ogwr, mae’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, pan y’i hadeiladwyd i amddiffyn Morgannwg rhag y gwrthsafiad Cymreig yn y gorllewin.
Yn gyfuniad rhyfedd o gloddwaith a’i llenfur carreg trawiadol, mae’n enghraifft brin o gastell heb ddileu’r hyn a godwyd o’r blaen yn sgil unrhyw waith diweddarach. Mae hyd yn oed ffos o amgylch y ward fewnol, a fwriedir fel ffos llanw a fyddai’n llenwi adeg penllanw; dull cyfrwys i droi’r amgylchedd yn ffurf arall o amddiffyniad. Gyda mynediad am ddim, beth am grwydro i mewn i fwynhau hanes yr adfail gwych hwn?
Mae pentref cyfagos Saint-y-brid yn atyniad arall i’r ardal. Er ei fod yn fach, nid oes diffyg hanes i’r pentref, ac mae eglwys y Santes Ffraid wedi cadw ei changell a’i bwa o’r ddeuddegfed ganrif, gan drwytho’r eglwys ag ymdeimlad gwirioneddol o’i hoedran a’i harwyddocâd.
Mae Twyn yr Hen Gastell, y bryn uwchlaw’r pentref, yn bwysig oherwydd ei amrywiaeth o briddoedd a mathau o lystyfiant. Mae Chwilod Hadyd, Chwilod y Dail a Sboncynnod y Dail wedi’u cofnodi yn yr ardal oherwydd presenoldeb cor-rosyn cyffredin, y maent yn dibynnu arno.
Mae’r cynefin hwn sy’n cael ei ddominyddu gan redyn yn cynnal y glöyn byw Brith Brown sydd dan fygythiad. Mae’r gloÿnnod byw yn bridio ar y safle oherwydd presenoldeb Fioledau Cyffredin, sef planhigyn bwyd y lindysen. Y glöyn byw mawr, lliwgar yw’r rhywogaeth sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain.Parcio yn Aberogwr a Saint-y-brid
John Davies