

Maesteg yw un o drefi mwyaf arwyddocaol cymoedd de Cymru, ac mae’n llawn cyfleusterau a chysylltiadau trafnidiaeth, a chanddi fannau o ddiddordeb ei hun sydd yn werth ymweld â nhw.
Un lleoliad o’r fath yw Capel Bedyddwyr Bethania. Gyda seddau ar gyfer 1,001 o bobl, cynllun oriel ail lawr a seddau addurnedig o haearn bwrw, pulpud ac organ euraidd, mae’r tu mewn yn wirioneddol fawreddog. Mae wedi goroesi’n wych, bron yn berffaith mewn gwirionedd, gymaint felly y byddwch yn teimlo fel petai 1908, pan adeiladwyd y capel gyntaf, wedi ymddangos o’r newydd yn y 2020au, yn hytrach na’ch bod wedi camu’n ôl i 1908.
Pan ddilynwch y llwybr allan i’r bryniau o amgylch y dref, byddwch yn crwydro ar lethrau gwyllt, gwyntog, fry uwchlaw’r dref brysur oddi tano. Cewch olygfeydd panoramig wrth i chi ddringo i fyny o’r dref a gwelwch y dyffryn fel amgylchedd bodau dynol, yn swatio rhwng y bryniau a’r mynyddoedd. Yn wahanol i lwybrau bryniau eraill ar hyd Ffordd Fawreddog Morgannwg, mae mynd o amgylch gogledd Maesteg yn rhoi cyfle prin i werthfawrogi agosrwydd trefi’r Cymoedd i’w tirweddau hynafol mewn ffordd na chaiff ei werthfawrogi’n aml.
what3words: rips.zeal.fails
Hydred: 51.633835
Lledred: -3.6688092
Maesteg – Rheilffordd, bwyd, parcio ac ati
John Davies