

Mae Tregolwyn yn bentref â chysylltiadau diddorol â hanes milwrol, sy'n dyddio'n ôl mor bell â'r adeg pan drechodd y Normaniaid y Cymry hyd at gyfnod mor ddiweddar â'r Rhyfel Byd 1af. Mae Tregolwyn ymhlith cyn lleied â 53 o bentrefi drwy'r holl DU i gael ei alw'n 'Bentref Diolchgar', oherwydd daeth pob un o'r dynion a'i gadawodd i ymladd yn y Rhyfel Mawr yn eu hôl. Caiff y wyrth hon ei chofio hyd heddiw, ac mae gweld y Gofeb Ryfel heb yr un enw wedi'i nodi arni yn gyfle i fyfyrio'n ddwys ar golledion aruthrol y Rhyfeloedd Byd, a pha mor hapus y byddai'r trigolion wedi bod ym 1919 wrth weld pob milwr yn dychwelyd adref yn ddiogel.
Mae a wnelo hanes Normanaidd Tregolwyn â chwedl hynod ddiddorol y Filltir Aur. Pan gafwyd brwydr rhwng dau frenin ganrifoedd yn ôl yng Nghymru, sicrhaodd un ohonynt gefnogaeth lluoedd y Normaniaid o'r tu hwnt i'r ffin. Addawodd y byddai'n talu milltir o aur iddynt yn gyfnewid am hynny. Wedi i'r llu cryfach hwn drechu'r Brenin arall, ffurfiodd linell ar hyd milltir o ffordd Rufeinig Via Julia Maritima, a gysylltai gaerau rhwng Caerloyw a Chastell-nedd.
Gosodwyd darnau aur ochr wrth ochr ar hyd y filltir gyfan, gyda'r fyddin yn sefyll wrth ymyl y llinell honno o aur. Wedi hynny cododd pob milwr ei dâl a dychwelyd i Loegr. Mae'r Ffordd Rufeinig yn dal i fodoli, ond ei henw bellach yw'r A48. Mae’n ddigon posib mai’r fan lle mae Llwybr Mawr Morgannwg yn ei chroesi yw lleoliad y filltir aur honno, o'r gorffennol pell. Cadwch lygad, rhag ofn i ddarn aur gael ei golli yn y cyffiniau! Wyddoch chi fyth!
Mae'r cyswllt Normanaidd yn parhau yn Nhregolwyn ei hun, yn eglwys Normanaidd Sant Mihangel a'r Holl Angylion o'r 12fed ganrif. Mae'n werth ymweld â hi, gyda'i ffenestri lliw godidog ac olion murluniau chwe chanrif oed hyd yn oed. Mae waliau gwyn allanol yr Eglwys yn neilltuol i Gymru, a dywedir bod yr eglwysi hyn fel 'Sêr mewn Awyr Digwmwl.'what3words: animator.miles.larger
Hydred: 51.471042
Lledred: -3.526355
Tregolwyn
John Davies