Mae’r Bachgen Llwm neu Wyddfid yr Himalaya yn rhywogaeth boblogaidd mewn gerddi, ond mewn sawl ardal, mae wedi lledu i'r 'gwyllt'. Mae'n rhywogaeth estron goresgynnol (RhEG) yn y Deyrnas Gyfunol, sy'n golygu ei bod yn trechu ac yn dadleoli’r llystyfiant brodorol, sy'n werthfawr i fywyd gwyllt brodorol y gwledydd hyn. Gellir gweld y Bachgn Llwm ar hyd rhai o lwybrau Llwybr Mawr Morgannwg, yng nghanol deheudir Cymru. Gellir dod o hyd i’r Brawd Llwm mewn ardaloedd o brysgwydd a choedwig gysgodol. Mae'r coesynnau'n wyrdd/coch, sy'n debyg i Glymog Japan. Mae'r blodau coch tywyll yn hongian am i lawr gyda blodau gwyn yn y gwaelod, sy'n debyg i gôn sydd ben i waered.