



Yn anffodus, mae’r llawr-geiriosen yn cael ei defnyddio’n eang ar draws y DU mewn parciau a gerddi. Os oes gennych wrych llawr-geirios, ystyriwch roi rhywogaethau llydanddail brodorol o wrychoedd yn ei le sy’n gallu cynnal planhigion a bywyd gwyllt sy’n frodorol i Brydain.
Fel rhan o'n prosiect, rydym wedi llwyddo i gael gwared ar lawr-geirios estron goresgynnol mewn sawl safle ar draws de-canolbarth Cymru. Cafodd y llawr-geirios ei newid am gymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol a fydd yn darparu preifatrwydd, amrywiaeth o blanhigion a chynefin brodorol.


John Davies