

Mae Reidiau coetir yn llwybrau llinol drwy goetir a ffurfir gan lwybrau a thraciau coetir. Gellir creu reidiau coetir o'r Dwyrain i'r Gorllewin gyda'r bwriad o gynyddu bioamrywiaeth. Mae'r cyfeiriadu yma yn sicrhau lefelau da o olau'r haul gydol y dydd, gan annog amrywiaeth o lystyfiant yn ogystal â rhywogaethau torheulo. Dylai reidiau coetir fod yn lletach nag uchder y goeden dalaf, hyd at 30 metr, er mwyn lleihau cysgodi.
Mae llannerch yn agoriad mewn coetir, er enghraifft ardal o brysgoedio diweddar. Mae argaeledd digon o olau'r haul yn cynnig golau a chynhesrwydd sy'n caniatáu i flodau coetir dyfu. Mae llennyrch yn rhoi mwy o fanteision i fioamrywiaeth pan fo coed ar yr ymylon, sy'n rhoi rhywfaint o gysgod.
Mae sgalop neu gromlin yn ardaloedd agored hanner cylch ar hyd ymyl reid coetir, sydd wedi'i glirio i ganiatáu i lwyni, llystyfiant a glaswellt dyfu. Mae ymylon amrywiol coetiroedd yn cynnig manteision i amrywiaeth o fflora a ffawna coetiroedd brodorol.


John Davies