Mae coed hynod yn bwysig oherwydd eu hoed, nodweddion hynafol, ecoleg, estheteg neu bwysigrwydd diwylliannol. Gall coed hynod fod yn unrhyw oed, ond mae'n rhaid iddynt ddangos 'nodweddion hynafol' tra bod coed hynafol yn cael eu pennu fesul oedran ac maent i gyd yn cael eu hystyried yn goed hynod.
I ddarparu'r gwerth mwyaf fel cynefin, dylid gadael yn ei le pren marw sy’n sefyll (h.y. coed neu gangen farw sydd o hyd yn eu lle). Mae coed marw, rhisgl pydredig a gwreiddiau cymhleth sy'n gysylltiedig â choed hynafol yn gynefin pwysig i amrywiaeth o ffyngau, mwsoglau, llysiau'r afu a chen. Parmelia minarum yw cen prin a geir ar goed Ffawydd a Derw hynafol. Gall y coed marw, y ffyngau a'r cen gynnal ystod eang o infertebrata, yn enwedig chwilod a phryfed sy'n tyllu coed. Mae rhywogaethau sydd mewn perygl yn cynnwys Chwilod Moccas a Chwilod Corniog.
Mae coed hynod a choed hynafol yn gynefin pwysig i lawer o rywogaethau o adar coetir. Mae craciau a holltau sy'n ffurfio yn y rhisgl gydag oedran, yn ffurfio safleoedd nythu addas. Mae'r holltau hefyd yn darparu clwydi pwysig i lawer o rywogaethau ystlumod.
Mae amrywiaeth o infertebrata yn byw o fewn rhisgl y coed, ac mae'n ffyngau a chen cysylltiedig, yn ffynhonnell fwyd i adar ac ystlumod coetir.

John Davies