

Wrth barcio, fe welwch ddigonedd o fannau ym Mlaengarw, neu gallwch barcio yn un o sawl cilfan ar ffordd yr A4107. Gallwch hefyd ddod o hyd i rai mannau parcio yng ngolygfan y Bwlch, ond os ydych chi'n dewis gwneud hynny, bydd angen i chi reidio ar draws cefn gwlad i fan cychwyn y llwybr.
Os dechreuwch o ffordd yr A4107, gadewch y ffordd a reidiwch i gopa’r Werfa, gan gadw’r mastiau ar ei brig ar y dde i chi. Mae croeso i chi grwydro i'r piler triongli ar y brig, ond mae'r llwybr eisoes yn cynnig golygfa fwy panoramig. Ar y pwynt a nodir fel ‘Twmwlws’ ar eich map, fe welwch dwmpath pridd bach. Wrth edrych allan oddi yno, mae golygfa'r dyffryn cyfan yn agor oddi tanoch.
Cymerwch bopeth i mewn … a chymerwch anadl – mae disgyniad golygfaol o’ch blaen! Nid oes llwybr ar y tir comin yma – mae'n daith dros dwmpathau glaswelltog ac ychydig o nentydd a thrwy rai giatiau ceffyl. Pan gyrhaeddwch y rhan isaf a gadael y tir comin, mae’n gwastatáu ar drac sy’n cadw ar hyd ymyl sawl cae a darn o goetir, gan eich arwain i lawr i dref fechan Blaengarw.
*Amser bras gan geffyl. Bydd ar feic yn gyflymach.
Noder
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy i bobl â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau o ganlyniad i ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall y tywydd effeithio ar arwynebau llwybrau hefyd. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.
John Davies