Mae gwenyn unig yn fathau o wenyn sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn hytrach nag mewn cwch gwenyn. Yn wahanol i wenyn mela, nid ydynt yn gwneud mêl a does ganddynt frenhines. Dydyn nhw ddim yn ymosodol gan nad oes ganddynt fêl i'w amddiffyn.
Pam mae gwenyn unig mor bwysig?
- Maen nhw'n peillio ein cnydau, felly maen nhw'n bwysig ar gyfer ffermio a chynhyrchu bwyd.
- Maent yn peillio'r blodau yn ein gerddi.
- Mae gwenyn unig yn llai gan amlaf na gwenyn bwm a gwenyn mela felly maen nhw'n bwysig ar gyfer peillio blodau bach.
- Mae gwenyn unig yn colli eu cartrefi naturiol oherwydd gweithgareddau dynol fel ffermio ac adeiladu. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n darparu'r peillwyr hanfodol hyn gyda llefydd newydd i fyw.
Ble maen nhw'n byw?
- Mae merched yn dodwy eu hwyau mewn tyllau bychain yn yr haf. Maen nhw'n gadael neithdar llawn siwgr wrth ymyl yr wyau.
- Pan fydd yr wyau'n deor, mae'r larfa'n bwyta'r neithdar i'w helpu i dyfu.
- Mae'r larfa yn treulio'r gaeaf mewn cocŵn ac yn gadael y nyth fel oedolion yn y gwanwyn.
Pa fathau o wenyn unig sydd yna?
- Mae dros 200 o rywogaethau (neu fathau) o wenyn unig tra nad oes ond 24 math o wenyn bwm.
- Mathau cyffredin y gallwch eu gweld yn defnyddio post gwenyn yw saerwenyn cochion a gwenyn deildorrol.