

Twyni Embryo yw'r ieuengaf a'r lleiaf o gylch oes twyni. Fe'u gwelir agosaf i'r cefnfor ac maent gan amlaf yn dywod rhydd. Ychydig iawn o blanhigion sy’n tyfu yma, heblaw am rywogaethau arloesol gan gynnwys glaswelltau traeth sy'n helpu i sefydlogi'r twyni.
Twyni blaen yw’r rhai y tu ôl i'r twyni embryo ac maent ychydig yn dalach, gyda mwy o laswellt gan gynnwys glaswellt marram. Mae'r twyni hyn yn fwy sefydlog ac yn gwrthsefyll y tywydd yn well na thwyni embryo oherwydd bod mwy o wreiddiau i rwymo'r tywod gyda'i gilydd.
Llaciau Twyni yw'r pantiau a geir rhwng y twyni, fel tu ôl i'r twyni blaen. Dyma ardal gysgodol lle gall pyllau dŵr croyw ffurfio, os yw'r pant yn is na'r lefel trwythiad, gan ddarparu cynefin i amffibiaid ac adar.
Bydd y twyni lled-sefydlog a sefydlog yn cael eu canfod ychydig ymhellach i'r tir. Mae ganddynt fwy o ddwysedd o lystyfiant sy'n golygu bod y systemau gwraidd mwy cymhleth yn rhoi mwy o sefydlogrwydd i'r twyni. Mae’n bosib gweld rhai planhigion megis meillion, ysgall pyramidaidd, briwydd felen a hegydd arfor. Mae rhywfaint o dywod rhydd i'w weld o hyd ar yr wyneb, sydd wedi chwythu i mewn i'r tir o'r traeth. Mae glaswelltau yn gyffredin ar y twyni sefydlog ac mae rhywfaint o lystyfiant i'w gweld.
Bydd twyni aeddfed yn cael eu canfod bellaf o'r traeth ac ychydig iawn o dywod rhydd sydd arnynt. Oherwydd eu haeddfedrwydd a gan fod mwy o ddŵr ar gael, mae llwyni a choed yn dechrau cytrefu ar dwyni aeddfed.
Mae rhos twyni yn gynefin prin a geir ymhellach i'r tir lle gallwch ddod o hyd i rywogaethau rhosydd fel grug a glaswellt. Yn aml nid oes rhos twyni yng nghynefin y twyni tywod oherwydd gweithgarwch dynol a newid defnydd tir megis datblygiad trefol.
Mae twyni'n cynnwys tywod rhydd felly maent yn gynefin da i wenyn turio a gwenyn meirch. Mae ardaloedd cysgodol o dwyni gydag amrywiaeth o blanhigion, ger ardaloedd agored heulog yn gynefin i anifeiliaid di-asgwrn cefn ac ymlusgiaid sy'n hoffi torheulo.
Dyma rai adar i gadw llygad amdanyn nhw ymhlith y twyni:


John Davies