O fewn coetiroedd llydanddail, mae rhai rhywogaethau o lystyfiant yn gweithredu fel dangosyddion o goetiroedd hynafol. Mae'r rhywogaethau hyn yn tyfu pan fydd coetir wedi bod yn bresennol ar safle penodol am gyfnod hynod faith. Po fwyaf o rywogaethau dangosol sydd mewn coetir, y mwyaf tebygol ydyw ei fod yn goetir hynafol.