

Mae coetiroedd llydanddail lled-naturiol aeddfed yn aml yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau o goed, gydag un rhywogaeth ddominyddol fel y ffawydden, y dderwen neu’r onnen. Mae’r brif rywogaeth o goeden yn ddibynnol ar amodau fel math y pridd a faint o ddŵr sydd ar gael.
Bydd coed o oedrannau amrywiol yn ffurfio strwythur coetir cymhleth sydd â chanopi, isdyfiant, haen llwyni a haen ddaear. Mae'r canopi a'r is-haenau yn darparu nodweddion cynefin gwahanol sy'n cefnogi amrywiaeth o fflora a ffawna. Lle caiff coetiroedd eu rheoli'n llwyddiannus, bydd mwy o olau ar gael yn yr isdyfiant, gan ganiatáu i lwyni a llystyfiant dyfu. Mae’r haen ddaear yn chwarae rhan bwysig mewn dadelfennu, gan greu cynefin i ffyngau, mwsoglau, llysiau'r afu a chen, yn ogystal ag infertebratau fel chwilod sy'n tyllu mewn coed.Mae coetiroedd derw yn cefnogi mwy o fioamrywiaeth nag unrhyw goetir brodorol arall yn y DU. Mae derwen Lloegr (Quercus robur) a’r dderwen mes di-goes (Quercus petreae) ill dwy’n frodorol i'r DU. Maent i’w gweld gan amlaf ar briddoedd asidig ac maent yn olygfa gyffredin ar draws de Cymru. Yn aml mae gan goetiroedd derw haen llwyni gymhleth o brysgwydd, llystyfiant, a glaswelltau, sy'n nodweddiadol o briddoedd asidig.Quercus robur) and Sessile oak (Quercus petreae) are both native to the UK. They are mostly found on acidic soils and are a common sight across South Wales. Oak woodlands often have a complex shrub layer of scrub, vegetation, and grasses, characteristic of acidic soils.
Mae blodau'r dderwen yn ffynhonnell o fwyd i wiwerod a phaill i infertebratau. I gyd, mae coed derw’n cefnogi dros 1000 o infertebratau, gan gynnwys chwilod, pryfed a lindys, sydd wedyn yn gweithredu fel ffynhonnell fwyd i adar. Yn yr hydref, mae mes yn ffynhonnell fwyd i infertebratau, llawer o adar coetir a mamaliaid bychain, fel gwiwerod a moch daear. Mae'r craciau yn y rhisgl hefyd yn gynefin addas i adar sy'n nythu ac ystlumod sy’n clwydo.
Mae pren marw, rhisgl a systemau gwraidd cymhleth yn gartref i amrywiaeth o ffyngau, mwsoglau, llysiau'r afu a chennau, gan gynnwys rhywogaethau prin sy'n dibynnu ar goed derw.
Mae coetiroedd ffawydd (Fagus sylvatica), sydd fel rheol i'w gweld ar briddoedd sychach, hefyd i'w gweld ledled de Cymru ac maent yn ffynhonnell bren werthfawr. Mae cynffonnau ŵyn bach yn cynnig paill i infertebratau ac mae cnau ffawydd yn ffynhonnell o fwyd i adar coetir a mamaliaid bach. Mae coetiroedd ffawydd, yn nodweddiadol, yn cynnwys coed tal (hyd at 40 metr) gyda chanopïau trwchus yn ystod y gwanwyn, gan greu haen ddaear gysgodol sy'n gallu ymddangos yn eithaf agored gan fod llai o lystyfiant yn tyfu. O ganlyniad i'r nodweddion cynefin unigryw hyn, mae llawer o blanhigion, ffyngau ac infertebratau yn arbenigwyr coetir ffawydd. Dyma rai rhywogaethau i gadw golwg amdanynt:
Mae coetiroedd ynn (Fraxinus) yn olygfa gyffredin ar draws Cymru. Mae'r coed yn aml yn ifanc, ac mae gan goetiroedd ganopi tenau oherwydd effeithiau clefyd coed ynn. Dylid monitro coed sydd wedi colli mwy na 50% o’u canopi am ddifrod ecolegol a gwerth economaidd, gan eu bod yn cynhyrchu nifer fawr o sborau sy'n lledaenu'r clefyd ffwngaidd. Mae rhai coed bellach yn cael eu hystyried yn ymwrthol, sy'n golygu bod coed ynn aeddfed i'w gweld ar brydiau.
Mae'r canopi tenau yn golygu bod mwy o olau ar gael i'r haen ddaear na choetiroedd llydanddail eraill. Felly, byddech yn disgwyl dod o hyd i fwy o amrywiaeth o goed a llwyni fel derw, sycamorwydd, pisgwydd, cyll a'r ddraenen wen. O ganlyniad, gall coetiroedd ynn ymddangos yn gymysg iawn a gallant feithrin fflora’r ddaear. Dyma rai enghreifftiau i gadw golwg amdanynt:
Gall yr ystod o wahanol goed a llwyni ddarparu cynefin addas i lawer o adar coetir, infertebratau a mamaliaid, gan gynnwys pathewod y cyll ac ystlumod sydd mewn perygl.


John Davies