

Mae amodau ffisegol a chemegol afon yn pennu'r cynefin a'r rhywogaethau sy'n byw oddi fewn iddi. Mae gan afonydd gyfraddau llif gwahanol yn dibynnu ar sawl cyflwr megis pa mor serth yw’r tirwedd, faint mae’n glawio a dyfnder y dŵr. Mae newidiadau tymhorol hefyd yn achosi newidiadau i ddyfnder y dŵr a chyfradd y llif drwy gydol y flwyddyn. Bydd priodweddau ffisegol afon, gan gynnwys argaeledd golau a thymheredd a phriodweddau cemegol hefyd yn penderfynu pa rywogaethau all oroesi yno. Yn nodweddiadol mae afonydd sy'n llifo'n gyflymach yn cynnwys mwy o ocsigen tawdd sy'n cynyddu bioamrywiaeth.
Mae ansawdd dŵr yn dirywio yn sgil effaith dyn, er enghraifft o garthion, dŵr ffo amaethyddol a llygredd diwydiannol. Mae'r mewnbynnau hyn yn cynyddu pan fydd hi'n bwrw glaw. Mae ansawdd dŵr yn pennu'r rhywogaethau sy'n byw o fewn afon gan fod gan lawer o rywogaethau lefelau goddefgarwch gwahanol i lygredd.Mae cyfnodau larfa llawer o wybed Mai, pryfed gwellt, gweision neidr, chwilod a phryfed eraill yn byw'n doreithiog ar welyau afonydd ynghyd â mwydod, cramenogion a molysgiaid. Gelwir y rhain i gyd yn facroinfertebratau a gellir eu darganfod trwy gyflawni sampl cicio. Mae rhywogaethau gwahanol o facroinfertebratau yn oddefgar i wahanol lefelau llygredd, sy'n eu gwneud yn ddangosydd uniongyrchol o ansawdd dŵr.
Mae macroinfertebratau yn ffynhonnell fwyd ar gyfer pysgod, adar a mamaliaid.
Mae planhigion dyfrol fel lilis, chwyn, cyrs ac algâu i'w cael gan amlaf mewn ardaloedd lle mae’r llif yn isel. Mae llawer wedi eu gwreiddio mewn mwd neu greigiau ar wely'r afon. Maent yn darparu ocsigen tawdd a lloches ar gyfer pysgod a macroinfertebratau. Os yw cyfradd y golau a maetholion yn uchel mewn afon, gall planhigion ac algâu dyfu ar gyfraddau gormodol. Mae’r gordyfiant o algâu o ganlyniad yn lleihau faint o olau sydd, gan achosi i blanhigion farw a phydru. Mae’r dadelfennu yn arwain at amodau anocsig, gan achosi marwolaethau pysgod a macroinfertebratau. Gelwir y broses hon yn ewtroffigedd.
Mae llawer o blanhigion daearol yn addas i amodau gwlyb, felly maent yn cael eu denu i lannau afonydd. Gallant gynnig lloches i famaliaid a chyfleoedd i adar nythu. Ymhlith y rhywogaethau i gadw llygad amdanynt mae:
Cadwch lygad am Ffromlys Chwarennog ymledol sy'n tyfu mewn clympiau mawr ar lannau afonydd. Mae'n broblem arbennig ar draws De Canol Cymru ac ar hyd llwybr Llwybr Mawr Morgannwg. Ewch i'n tudalen ni am Ffromlys Chwarennog i ddarganfod sut i'w adnabod a'i dynnu.
Mae mamaliaid daearol yn dibynnu ar ffynonellau dŵr croyw fel afonydd, llynnoedd a phyllau ar gyfer dŵr yfed. Fodd bynnag, mae llawer o famaliaid wedi addasu i fyw mewn dŵr trwy gael ffwr gwrth-ddŵr a chau eu trwynau sy’n caniatáu iddyn nhw aros yn y dŵr am fwy o amser. Mae addasiadau eraill fel traed gweog a chynffonau cyhyrog yn eu gwneud yn nofwyr cryf. Mae llawer o'r rhywogaethau hyn mewn perygl bellach oherwydd newid yn y defnydd o’r tir sy’n golygu bod eu cynefin yn cael ei gyfyngu. Dyma rai o'r rhywogaethau mamaliaid sy'n dibynnu ar afonydd:
Mae dyfrgwn yn byw yn Afon Taf, sy'n cydredeg â llwybr Ffordd Fawr Morgannwg. Mae dyfrgwn yn swil ac yn greaduriaid y nos ond weithiau gellir eu gweld ar lan yr afon neu’n nofio mewn afonydd. Mae traed gweog dyfrgwn a’u cynffonau cryf yn eu cynorthwyo i nofio, yn ogystal â'u harfer o gau eu trwynau a'u clustiau rhag y dŵr.
Mae llawer o rywogaethau o adar y gellir eu gweld ger dŵr croyw megis afonydd, llynnoedd a phyllau dŵr. Mae rhai yn hela am bysgod ac eraill yn gwneud nythod wrth ymyl y dŵr. Mae rhai rhywogaethau fel elyrch a hwyaid yn nofwyr ardderchog. Mae gan rywogaethau eraill fel crëyr glas ac ibisau goesau a bysedd traed hir sy'n eu galluogi i gerdded drwy fwd meddal. Mae’n fwy tebyg y gwelwch rywogaethau llai fel glas y dorlan yn hedfan dros y dŵr. Dyma rai rhywogaethau i gadw llygad amdanynt ar Llwybr Mawr Morgannwg:


John Davies