

Yn aml, plannir coetiroedd conifferaidd fel ungnwd, sy'n golygu eu bod yn cynnwys un rhywogaeth o goeden. Pan fydd coetir yn cynnwys coed o'r un oed, ni fydd strwythur gan y coetir. Mae hyn yn golygu bod un canopi parhaus heb unrhyw is-haenau nac is-dyfiant sy'n gynefinoedd gwerthfawr iawn i fioamrywiaeth. Mae rhai conifferau wedi'u plannu'n bwrpasol yn agos at ei gilydd i greu canopi trwchus ac is-dyfiant tywyll, sy'n cysgodi rhywogaethau eraill ac yn lleihau cystadleuaeth. Mae hyn yn lleihau addasrwydd y cynefin i anifeiliaid di-asgwrn cefn ac adar chwilota.
Mae cliriadau, llennyrch a rhodfeydd yn ardaloedd gyda mwy o olau ar gael o fewn planhigfeydd conifferaidd sy'n darparu cynefinoedd ymyl pwysig ar gyfer prysgwydd a llystyfiant brodorol. Mae cynefinoedd ymyl yn fwyaf buddiol pan fo newid graddol o goed aeddfed, i goed ifanc, i brysgwydd a llystyfiant, i laswelltir. Mae hyn yn darparu mosaig o gynefin ag ardaloedd cysgodol a gyda mwy o olau, sy'n cynnig i amrywiaeth o fflora a ffawna.
Nid yw llawer o anifeiliaid di-asgwrn cefn yn gallu byw o fewn amodau tywyll coetiroedd conifferaidd fodd bynnag, mae ymylon coetir llwyddiannus yn darparu cynefin cynnes a chysgodol addas. Er enghraifft, mae derw, helyg, y ddraenen ddu a chelyn yn gynefin addas i lawer o wyfynod a gloÿnnod byw. Efallai y byddwch yn gallu arsylwi Melyn y Rhafnwydd, Brithribin W Wen a Gweirlöyn Brych, ymhlith rhywogaethau eraill.
Mae'r dolydd gwlyb a ffurfiwyd ar ymylon coetir yn aml yn gynefin i ymlusgiaid ac amffibiaid, gan gynnwys madfallod, nadroedd, nadroedd defaid, brogaod, llyffantod a madfallod dŵr. Mae'r ardaloedd heulog cynnes, ger amodau cysgodol, yn darparu cyfleoedd torheulo addas.Yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn ac oed y coetir, gall ddarparu cynefin i nifer o adar coetir gwahanol. Mae rhai adar, megis Corhedydd y Coed, Corhedydd y Waun a Crec yr Eithin yn bridio mewn ardaloedd wedi’u llwyrgwympo o goetiroedd conifferaidd a reolir. Ceir rhywogaethau eraill gan gynnwys Llwyd y Gwrych, Helygddryw a Llinos Bengoch Lai yn ystod y cyfnodau twf cyn i ganopi'r coetir gau.
Dyma rai rhywogaethau i edrych amdanynt mewn planhigfeydd conifferaidd aeddfed:
Mae'r coetir llaith, tywyll yn lle delfrydol i ddod o hyd i ffwng, mwsoglau a chen. Dyma rai rhywogaethau ffyngau i edrych amdanynt:


John Davies