Rhywogaethau estron goresgynnol (RhEG) yn y DU o dan Atodlen 9 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Felly, “mae’n drosedd plannu neu achosi mewn ffordd arall i’r rhywogaeth hon dyfu yn y gwyllt”. Mae’r Ffromlys Chwarennog yn tyfu'n bennaf ar dir gwastraff ac ar lannau afonydd. Mae ganddo flodau tiwbaidd pinc llachar neu weithiau rhai tiwbaidd gwyn. Mae'r dail yn siâp hirgrwn danheddog, gydag ymylon ychydig yn goch. Mae'r bonyn yn wag gyda chymalau coch.