Llwybr Mawr Morgannwg

Pecyn Cymorth

Rheoli Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Mannau Gwyrdd ar gyfer Bioamrywiaeth

Bydd y pecyn cymorth hwn yn rhoi cyngor ar sut I reoli cynefinoedd a mannau gwyrdd ar gyfer bioamrywiaeth ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ogystal ag o fewn prosiectau sy’n cael eu hariannu gan grant ac sy’n cael eu harwain gan y Cyngor. Ceir amrywiaeth eang o gynefinoedd ledled Canol De Cymru, o Aber Afon Hafren i gynefinoedd dŵr croyw, coetiroedd, gweundiroedd, ochrau dyffrynnoedd uchel a mannau trefol. Felly, bydd y pecyn cymorth hwn yn rhoi trosolwg o bob sir, ac yna arweiniad ar sut i reoli, monitro a gwella bioamrywiaeth ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau penodol. Bydd yr arferion rheoli yn y ddogfen hon yn amlinellu sut I annog dolydd glaswelltir, llystyfiant, coed a llwyni yn ogystal ag anifeiliaid di-asgwrn cefn, amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamaliaid, gyda’r nod cyffredinol o wella’r dirwedd ar gyfer bioamrywiaeth a chyflawni budd net bioamrywiaeth.

Bydd y pecyn cymorth hefyd yn rhoi cyngor ac enghreifftiau o ran sut i ymgysylltu â’r gymuned leol trwy weithgareddau awyr agored i wella lles cymunedol a chynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn prosiectau yn barhaus. Felly, gellid addasu llawer o’r enghreifftiau yn y ddogfen er budd prosiectau dan arweiniad y gymuned a phrosiectau gwirfoddol.

Lawrlwythwch PDF