

Mae maes parcio a man picnic dynodedig am ddim yng Nghoedwig Llantrisant, neu fe welwch chi le parcio bach ar ben arall y llwybr, gan ei adael fel dewis personol o ran ym mha gyfeiriad yr hoffech chi fwynhau taith y diwrnod, sef p'un a ydych am ddefnyddio'r llinell goeden bell fel marciwr ar y gorwel, neu fel cyflwyniad ysgafn wrth gychwyn.
Mae’r llwybr yn daith braf ar draws y bryniau, gan eich arwain o dan lafnau chwyrlïol fferm wynt Graig Fatha, sef y fferm wynt gyntaf yn y DU i fod yn eiddo i ddefnyddwyr. Mae’n llwybr syml, uniongyrchol sy’n rhedeg mor agos at linell syth ag y gall o’r dechrau i’r diwedd, gan ganiatáu ar gyfer taith ddiofal sy’n cynnwys y golygfeydd godidog sy’n ymestyn allan ar draws Bro Morgannwg a thu hwnt i Fôr Hafren a De-orllewin Lloegr.
*Amser bras gan geffyl. Bydd ar feic yn gyflymach.
Noder
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy i bobl â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau o ganlyniad i ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall y tywydd effeithio ar arwynebau llwybrau hefyd. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.
greatglamorganway112022