Mae Castell Ogwr yn fan cychwyn hynod o olygfaol i ddiwrnod o daith, sy'n eich galluogi i gychwyn o'i faes parcio bach sydd yn rhad ac am ddim. Yn aml, fe welwch farchogion yn rhydio’r afon, ac mae’n lle perffaith i barcio a pharatoi ar gyfer y diwrnod. Mae'r castell yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb, felly mae'n bendant yn werth ei weld.
Mae’n bwysig gwirio amseroedd y llanw cyn croesi’r afon, gan fod Afon Ogwr yn destun un o’r amrediadau llanw mwyaf yn y byd, a gall fod yn dipyn o syndod faint mae lefel y dŵr yn newid yn dibynnu ar yr amser o’r dydd, neu hyd yn oed ar ôl glaw trwm.
Unwaith y byddwch wedi croesi'r afon, dilynwch y trac i'r tirnod nesaf, sef pont siglen ysblennydd draw i Ferthyr Mawr. Wrth droi i'r dde yma, byddwch yn mynd heibio i eglwys ac yn dilyn y ffordd i'w man terfyn yng Nghastell Candleston, adfail sydd wedi gordyfu ac sy’n llawn awyrgylch a hanes. Mae maes parcio talu ac arddangos yma, os penderfynwch ei ddefnyddio fel gwersyll sylfaen.
Fe welwch eich hun bellach ar ymyl y twyni tywod a gallwch ddilyn y llwybr, gan fwynhau'r fflora a'r ffawna sy'n gwneud twyni mor unigryw a deniadol. Bydd y llwybr yn eich arwain heibio’r twyni ac allan i’r ochr arall i Landudwg, felly mae’n llwybr byr hyfryd sy’n addas ar gyfer reid araf yn ystod y prynhawn, gan fwynhau’r dirwedd ac awel ffres y môr.
*Amser bras gan geffyl. Bydd ar feic yn gyflymach.
Noder
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy i bobl â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau o ganlyniad i ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall y tywydd effeithio ar arwynebau llwybrau hefyd. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.
John Davies