- Gofynnwch i oedolyn dorri'r siapiau pren yn y diagram ymlaen llaw. (Gwnaethom gael pecynnau blwch nythu wedi’u torri ymlaen llaw gan Nestbox Company)
- Driliwch dyllau yng ngwaelod y blwch er mwyn iddo allu draenio
- Penderfynwch ar faint y twll ar gyfer y fynedfa, yn dibynnu ar y rhywogaethau adar yr hoffech iddynt ddefnyddio’r blwch (gweler y ddogfen wedi’i hatodi)
- Gan ddefnyddio’r atodyn cywir ar gyfer y llif twll, gofynnwch i oedolyn greu’r twll ar gyfer y fynedfa ym mlaen y blwch
- Defnyddiwch bapur tywod ar unrhyw ymylon garw
- Hoeliwch yr ochrau ar flaen y darn cefn
- Llithrwch y gwaelod i mewn a’i hoelio yn ei le
- Hoeliwch y darn blaen ar flaen y blwch
- Rhowch y caead ar ben y blwch gan ei osod yn ei le gyda 2 sgriw Bydd hyn yn eich galluogi i dynnu’r to’n hawdd i lanhau’r blwch
- Atodwch y croen atal lleithder i gefn y caead fel colfach, bydd hyn yn amddiffyn y nyth trwy alluogi glaw i redeg oddi ar y to
- Atodwch y gard cnocellod y coed dur maint cywir i flaen y blwch (opsiynol)
Defnyddiwch y ddogfen wedi’i hatodi i leoli'r blwch nythu yn eich gardd yn gywir
Gofynnwch i oedolyn am help wrth ddefnyddio unrhyw offer.