Gofynnwch i oedolyn am help wrth gario pethau trwm
- Paletau neu slatiau pren
- 4 bricsen
- Hen lechi to / pren / deunydd i wneud to gwrth-ddŵr
- Cwmpawd (dewisol)
Casglwch ddeunydd gwastraff bioddiraddadwy fel:
- Tiwbiau cardfwrdd
- Brics â thyllau ynddynt
- Bambŵ neu goesynnau gwag (gofynnwch i oedolyn dorri deunyddiau i hyd y palet neu'n llai)
- Rhisgl
- Boncyffion
- Brigau
- Cerdyn rhychiog
- Gwellt
- Dail
- Conau pinwydd (neu foch coed)
Dewisiol: Gallech ofyn i oedolyn ddrilio tyllau mewn boncyffion ar gyfer gwenyn unig
Peidiwch â phoeni os na allwch ddod o hyd i bopeth sydd wedi'i restru. Mae'n well gan bryfed gwahanol ddeunyddiau gwahanol!