

Ychydig i'r de o bentref hyfryd Sain Nicolas fe welwch Dŷ a Gerddi Dyffryn, plasty a thiroedd Edwardaidd ysblennydd, gyda'r ardd yn gyforiog o rywogaethau planhigion a phensaernïaeth flodeuog. Gyda dwy erw ar hugain o goetir, ystafelloedd gardd thematig sy'n adleisio hyfrytwch y Canoldir, tŷ gwydr, caffi a man chwarae ardderchog hyd yn oed, mae digonedd i holl aelodau eich grŵp ei weld a'i fwynhau.
Yn agos at Dŷ a Gerddi Dyffryn mae dwy siambr gladdu Neolithig Tinkinswood a Llwyneliddon, y naill a'r llall dros 6000 oed, sy'n golygu eu bod mewn gwirionedd yn hŷn na Chôr y Cewri! Yr hyn y gallwn ni ei weld yw'r tu mewn i domenni yn y ddaear a fyddai wedi bod yn enfawr, sydd bellach yn gwbl agored i'r nen. Mae’r meini sy’n weddill yn enfawr, yn dyst i ddyfeisgarwch ein cyndeidiau o Oes y Cerrig. Petaech chi'n hel trigolion pentref modern ynghyd ac yn gofyn iddynt symud ond un o'r meini hyn heb ddefnyddio peiriannau modern, byddai'n rhaid wrth bentref arbennig iawn i'w symud cyn lleied â metr!
Mae siambr gladdu Llwyneliddon wedi'i siapio bron fel pecyn o gardiau'n cydbwyso'n erbyn ei gilydd, gyda chapfaen enfawr sy'n gorffwyso'n rhyfeddol am ben tri maen tal. Codwyd y gapfaen ymhell bell yn ôl, a'i gosod yn gadarn am ben y creigiau eraill, gyda'i phwysau yn ei chadw yn ei lle hyd heddiw. O gyfnod cyn y pyramidiau hyd at y cyfnod wedi inni lanio ar y lleuad.
Mae Tinkinswood yn enghraifft sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol, ac yn fwy tebyg i dŷ go iawn, wedi'i suddo i mewn i'r ddaear. Mae'r gapfaen yn aruthrol o fawr, ac yn pwyso deugain tunnell! Mae hynny yr un faint a thua 8 eliffant. Cred haneswyr y byddai wedi cymryd 200 o bobl o leiaf i'w chodi i'w lle, ond drwy lygaid modern byddai'r dasg yn ymddangos yn amhosib i'w chyflawni heb graen. Wrth blygu eich pen i fynd oddi tano, gallwch bron deimlo pwysau'r maen uwch eich pen, ac efallai y bydd rhai'n teimlo brys i ddychwelyd i'r awyr agored yn syth ar ôl camu i lawr i'r siambr.
what3words: haven.unlocking.reflect
Hydred: 51.443672
Lledred: -3.303260
Caffi Dyffryn
Parcio yn Sain Nicolas
John Davies