Cyflwynwyd y Gynffon Las (neu’r Goeden Fêl, neu Gwt yr Oen!) i'r DU yn y 1890au. Erbyn hyn mae'n olygfa gyffredin mewn gerddi, ardaloedd trefol a thir gwastraff, fel ar hyd ymylon rheilffyrdd. Mae gan y Gynffon Las goesynnau prennaidd a gall dyfu i tua 5 metr o uchder. Mae'r dail yn wyrdd ac wedi'u danheddu â blew mân oddi tanynt. Mae'r blodau pitw wedi’u grwpio gyda'i gilydd mewn siâp côn. Maent yn borffor neu'n wyn yn y DU fel arfer, ond maent yn dod mewn llawer o liwiau eraill gan gynnwys pinc, glas a melyn.