Llwybr Mawr Morgannwg

Côd Ymddygiad

Parchwch Eich Gilydd

  • Ildiwch i ddefnyddwyr eraill. Mae croeso i bob cyfrwy ar Lwybr Mawr Morgannwg
  • Parchwch drigolion lleol, eu cartrefi a lle maen nhw'n gweithio
  • Gadewch gatiau fel yr oedden nhw pan ddaethoch chi ar eu traws
  • Peidiwch â rhwystro mynedfeydd
  • Cadwch at y llwybrau sydd wedi'u marcio a'r mannau cyhoeddus dynodedig
  • Cadwch gŵn ar dennyn o gwmpas anifeiliaid fferm, ac o fewn golwg bob amser

Parchwch yr Amgylchedd

  • Ewch â’ch sbwriel chi adref gyda chi, a chodwch fwy os gallwch chi
  • Rhowch faw cŵn yn y bag ac yn y bin
  • Peidiwch â chynnau tanau na barbeciws y tu allan i ardaloedd dynodedig

Parchwch Fywyd Gwyllt Lleol

  • Diogelwch gynefinoedd drwy gadw at y llwybrau sydd wedi'u marcio a'r mannau cyhoeddus dynodedi
  • Peidiwch â bwydo anifeiliaid gan y gall hyn eu niweidio neu eu rhoi o dan straen
  • Rhowch le i fywyd gwyllt, anifeiliaid fferm a cheffylau, yn enwedig os ydynt gyda'u rhai ifanc. Os bydd anifeiliaid yn cael braw neu’n mynd yn amddiffynnol, gallant achosi niwed i chi neu eu hunain.

Gwnewch Atgofion Da

  • Cynlluniwch eich taith
  • Dywedwch wrth rywun arall ble rydych chi'n mynd a phryd rydych chi'n disgwyl dychwelyd
  • Darllenwch y canllawiau diweddaraf ar Lwybr Mawr Morgannwg am gyflwr y llwybr
  • Tynnwch a rhannwch luniau