Llwybr Mawr Morgannwg

Pob Lleoliad

Llanharan a Choedwig Llantrisant

Yn le da i’w ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer teithiau hirach, gwnaiff cwm dramatig Llanharan a choedwig gyfagos Llantrisant, sydd ei hun yn frith o goetir hynafol, roi diwrnod o deithio na fyddwch yn ei anghofio’n fuan.

Tregolwyn

Taith i fyny ac i lawr drwy fryniau a dyffrynnoedd glas Bro Morgannwg, a phentref dymunol Tregolwyn yn ganolbwynt i'r cyfan, gyda'i gyfoeth o chwedlau ac arglwyddi'r oesau tywyll.

Gwenfô

Gyda'r gwaith ailddatblygu naturiol rhyfeddol sy'n digwydd ar ei lwybrau troellog, drwy brosiect Llwybr Mawr Morgannwg, mae Gwenfô yn llawn cyfleusterau defnyddiol i wneud bywyd yn haws wrth groesi tirlun bryniog Bro Morgannwg.

Castell Nos a Lluest Wen

Dyma ardal brydferth sy'n frith o gronfeydd dŵr, tyrbinau gwynt, coetiroedd a dyfrffyrdd. Bob munud byddwch yn gweld rhywbeth newydd i ryfeddu ato, neu gyffrous i reidio drosto.

Maesteg

Taith gylch sy’n amgylchynu ymyl ogleddol Maesteg, yn llawn golygfeydd, rhosydd gwyntog, coetiroedd, copaon a chafnau, gyda’r dref ei hun yn lle delfrydol i ddechrau’r daith.

Craig y Parc

Llwybr sy’n pontio’r bwlch rhwng dwy fryngaer hynafol, yn ffinio ag esgyrn hen drac rheilffordd cyn esgyn i goetir glas toreithiog. Mae'n ddechrau neu'n ddiwedd gwych i lwybr sy'n ymestyn yr holl ffordd o Gaerdydd i Bontypridd a thu hwnt.

Llanwynno

Dringad drwy goedwig serth, yn gyforiog o olygfeydd hyfryd o ddyffryn Aberdâr islaw, a geir drwy ambell i gipolwg gwefreiddiol drwy’r coed. Mae gan bentrefan bach Llanwynno fwy o dreftadaeth yn ei ddau adeilad nag a gewch mewn rhai pentrefi mawrion!

Dyffryn

Gan ffynnu ar ei dreftadaeth a’i fflora, mae Dyffryn yn gyforiog o blanhigion hardd, coed gwyllt a phrin ac ysblander urddasol yng nghanol y Fro. Mae'r ddwy siambr gladdu hynafol gerllaw ymhlith yr enghreifftiau sydd wedi'u cadw orau drwy'r wlad, a byddant yn eich cludo'n ôl i fyd cyn dyfodiad metel.

Saint Hilari

Ac yntau’n bentref prydferth sy’n frith o bron i 1,000 o flynyddoedd o hanes, mae Saint Hilari yn le gwych i ddechrau neu orffen taith. I’r gogledd o’r pentref, mae copa Bryn Owain yn cynnig golygfeydd ysgubol o Fro Morgannwg, a dyma safle un o frwydrau mwyaf llafurus Owain Glyndŵr yn erbyn y Saeson.

Aberogwr a Saint-y-brid

Ar hyd y llwybr parhaus o straeon a fydd yn eich cyfareddu, byddwch yng nghysgod Castell Ogwr, sy’n nodi’r canrifoedd o hanes sy’n aros i gael eu darganfod ledled Bro Morgannwg, tra bod y dirwedd yn rhoi lloches i’r glöyn byw mewn mwyaf o berygl ym Mhrydain.

Twyni Merthyr Mawr

Ewch am antur ar hyd ehangder twyni uchaf Cymru (yr ail uchaf yn Ewrop!), cyn chwilota’n ddwfn yn neiliant llaes coetir gwirioneddol hynafol.

Ogmore Vale

Gydag ychydig flas o bopeth, mae Cwm Ogwr yn gyfuniad o goetiroedd pen bryn, yr Afon Ogwr yn llifo’n ddisglair, a dringad egnïol i fyny i’r mynyddoedd uwchlaw’r dyffryn, lle cewch olygfeydd panoramig trawiadol o dde Cymru.

Werfa (Mynydd Llangeinwyr)

Yn gorwedd uwchlaw canolbwynt y Cymoedd, mae mynydd y Werfa yn llawn gwefr, golygfeydd a chysylltiad dwfn â’r ddaear o’i gwmpas, fel man cychwyn emyn enwocaf Cymru.